Beth yw Straen?
Gall unrhyw un dioddef o straen, ble bynnag maen nhw'n byw. Byddai bywyd heb unrhyw straen hefyd yn fywyd anghyffrous, ond os bydd straen bywyd bob dydd yn cynyddu ac yn lluosi am ba bynnag reswm, efallai na fyddwch yn gallu ymdopi. Mewn ardaloedd gwledig, mae'n bosibl fod sbardunau straen penodol yn bodoli, megis unigedd ac amharodrwydd i ofyn am gymorth, sy'n golygu ei fod yn anoddach byth i fynd i'r afael ag ef. Ac os byddwch yn teimlo eich bod chi angen cymorth, gall fod yn anoddach dod o hyd i wybodaeth am y cymorth, neu i'w gyrraedd mewn ardal wledig.
Sut 'dach chi'n gwybod eich bod chi dan straen?
Mae 'na symptomau amrywiol - rhai corfforol, meddyliol ac emosiynol - sy'n gallu awgrymu eich bod chi, neu rywun 'dach chi'n adnabod, yn dioddef o straen.
Gallwch gael symptomau corfforol:
- Pwysedd gwaed uchel
- Cur pen, poen yn y gwddf a'r ysgwyddau, poen cefn
- Patrwm cysgu afreolaidd (trafferth cysgu, neu gysgu gormod)
- Newid mewn pwysau (bwyta gormod, neu ddiffyg chwant bwyd)
- Teimlo'n flinedig trwy'r amser
- Problemau rhywiol megis diffyg diddordeb mewn rhyw
Neu rai meddyliol:
- Iselder
- Anhawster canolbwyntio
- Anghofio a drysu
- Methu â gwneud pethau sydd angen meddwl (er enghraifft cadw cofnodion a chyfrifon)
- Anhawster gyda gwneud penderfyniadau
- Agwedd negyddol, tuag at eraill a chi'ch hunan
- Teimlo'n ansicr neu wedi llethu
Neu newidiadau mewn ymddygiad:
- Colli cyfeiriad, colli diddordeb mewn gwaith neu weithgareddau cymdeithasol.
- Encilio rhag ffrindiau a theulu.
- Sensitifedd, hwyliau ansad, ffrwydradau heb fawr o reswm
- Gwario i ymgysuro
- Yfed mwy, ysmygu mwy neu ddefnyddio mwy o gyffuriau
- Colli synnwyr digrifwch
- Bod yn fwy tueddol o gael damwain