Skip content

Beth gallaf wneud amdano?

Gallwch wneud llawer o bethau i helpu'ch hunan, o newid eich ffordd o edrych ar ôl eich hunan - eich diet, ymarfer, patrymau hamdden a chysgu - i newid y ffordd rydych yn meddwl amdanoch chi'ch hunan, eich swydd, eich perthnasau.

Dysgu ymlacio

Os ydych dan straen, efallai y byddwch yn mynd yn bryderus neu'n teimlo tyndra fydd yn ychwanegu at y straen gwreiddiol. Trwy ddod o hyd i ffordd i leddfu'r straen, gallwch helpu leihau'r broses o 'weindio fyny'. Bydd hyd yn oed cymryd seibiant o ddeg munud bob dydd i anadlu'n araf ac yn ddwfn yn helpu. Neu drwy dreulio amser wrth eich hunan - yn darllen, cerdded neu'n gwrando ar gerddoriaeth. Mae nifer o dapiau ymlacio ar gael, neu ddosbarthiadau megis ioga.

Diddordebau newydd

Pan fyddwch yn teimlo dan straen, gall fod yn anodd bod yn frwdfrydig am bethau eraill, ond gall diddordeb neu hobi newydd helpu, yn enwedig os bydd yn cynnwys grŵp o bobl eraill. Bydd y rhain yn cael eu hysbysebu yn y papur newydd lleol neu ar hysbysfyrddau'r llyfrgell neu'r siop leol, neu fel dosbarthiadau nos yn y coleg lleol.

Ymarfer

Er eich bod chi efallai'n dioddef o ddiffyg egni, trwy fynd am dro, bydd eich lefelau egni'n cynyddu, a bydd hyn hefyd yn helpu atal iselder. Trwy ymuno â chlwb, byddwch yn cwrdd â phobl eraill hefyd, a gall y gweithgaredd amrywio o sboncen i fowlio. Gallwch hefyd gerdded gyda phobl eraill. Mae gwefan Cerdded Llwybr Iechyd yn cynnwys tudalen 'Walk finder' fydd yn rhoi rhif cyswllt eich grŵp agosaf.

Bwyta'n dda

Gall straen golygu eich bod wedi aflonyddu gormod i fwyta'n iawn, neu'n rhy isel eich ysbryd i falio beth rydych yn bwyta. Ond gall yr hyn mae rhywun yn bwyta cael effaith fawr ar sut mae rhywun yn teimlo, ac mae bwyta'n dda yn rhan o edrych ar ôl eich hunan. Mae llawer o gyngor da ar gael am fwyta diet iach - er enghraifft, gallwch edrych ar y dudalen isod ar wefan Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Cysgu'n dda

Efallai y byddwch yn cael trafferth mynd i gysgu, neu'n deffro'n gynnar iawn. Ceisiwch wneud amser i ymlacio cyn mynd i'r gwely, a cheisiwch fynd i drefn reolaidd wrth fynd i'r gwely a chodi yn y bore. Ceisiwch adnabod beth sy'n eich poeni a'i 'roi yn ei le' h.y. penderfynu na allwch ei ddatrys dros nos, ond y byddwch yn ei ystyried yfory.

Gwneud newidiadau

Gall y straen fod yn ganlyniad ffactorau allanol sydd tu hwnt i'ch rheolaeth chi efallai; os felly, gall fod o ddefnydd cysylltu ag un o'r mudiadau a restrir ar y dudalen Pwy sy'n gallu helpu?. Ond efallai y byddwch yn gallu gwneud newidiadau eich hunan, yn eich ffordd o weithio neu yn y ffordd rydych yn gyrru ymlaen gyda phobl eraill, neu yn eich ffordd o drefnu'ch amser.

Ceir gwybodaeth fwy manwl ar hunangymorth mewn cyhoeddiadau megis 'Mind Guide to Managing Stress'

Siarad gyda phobl eraill: mae'r holl syniadau uchod yn ddulliau i helpu chi'ch hunan, ond cofiwch ycewch fudd o siarad gyda rhywun arall. Gall hyn fod yn ffrind, aelod o'r teulu, neu'ch doctor, neu gall fod yn un o'r mudiadau sy'n arbenigo mewn cefnogi pobl sy'n dioddef o straen. Os ydych yn ei chael yn anodd siarad gyda rhywun yn uniongyrchol, gallwch gysylltu â rhai o'r mudiadau yma dros e-bost neu drwy lythyr. Mae'r dudalen Pwy sy'n gallu helpu? ar y wefan hon yn rhestru'r mudiadau sy'n gweithio yn eich ardal chi, ac yn rhoi eu manylion cyswllt.