Yn delio gydag anghenion tai yng nghefn gwlad i gymunedau gwledig trwy Gymru gyfan. Yn rhedeg Cynllun Tai Gwledig Strategol i'r sawl sy'n gadael busnes gwledig annichonadwy, i alluogi pobl i aros yn eu cymuned, a gadael eu busnes gydag urddas.
Mae’r Canolfan yn rhoi cyngor ar faterion ariannol (gan gynnwys dyledion, cyflogaeth, budd-daliadau, yswiriant a materion i ddefnyddwyr), tai, materion teuluol ac anghydfodau rhwng cymdogion. Gwasanaeth drws-agored yw, does dim angen apwyntiad, ac nid yw’n gyfyngedig i ardal.
Rydym yn ganolfan cynghori annibynnol, ac yn aelod o Advice UK. Rydym yn cynnig cyngor cyfrinachol am ddim i unrhyw un, gan gynnwys cyngor arbenigol, cyngor ariannol arbenigol (gan gynnwys cymorth gydag or-ddyledrwydd, llythrennedd ariannol, llunio cyllideb), a chyngor gan arbenigwyr ar fudd-daliadau lles (gan gynnwys help gyda budd-daliadau salwch/anabledd a diweithdra, Budd-dal Tai a Threth Cyngor, credydau Treth). Mae’r prosiect POWer ar gyfer pobl sy’n dioddef o dlodi tanwydd, yn enwedig pobl gyda theuluoedd ifanc a phobl sy’n agored i niwed. Mae’r prosiect Monergy yn targedu pobl sydd angen cymorth gyda chyllido a defnyddio ynni’n effeithlon.
Corff annibynnol ac elusen gofrestredig yw’r Canolfan Cyngor ar Bopeth (CAB) sy’n cynnig gwybodaeth gyfrinachol, annibynnol a diduedd am ddim ar ystod eang o faterion.
Nod y gwasanaeth yw: Rhoi’r cyngor sydd ei angen i bobl ar gyfer y problemau sy’n eu hwynebu, a gwella’r polisïau a’r arferion sy’n effeithio ar fywydau pobl.
Mae’r gwasanaeth cyffredinol yn delio gyda materion teuluol a phersonol, maes tai, mewnfudo, iechyd, treth, anaf personol, cludiant a chyfathrebu, addysg a hawliau dynol. Mae cymorth trwy’r gwasanaethau Gwaith Achos yn delio gyda materion ym maes cyflogaeth a chyngor i ddefnyddwyr. Mae’r gwasanaethau arbenigol yn delio gyda budd-daliadau lles a dyledion. Ac mae’r cynllun Gallu Ariannol yn cynnig sesiynau unigol ar gyfer unigolion a grwpiau.
Yng Ngogledd Powys mae canolfannau cyngor yn y lleoliadau canlynol:
Yn Ne Powys, mae’r canolfannau yn y lleoliadau canlynol:
Mae cyngor cyffredinol dros y ffon ar gael drwy Bowys gyfan:
Sy'n darparu cefnogaeth a gwasanaeth cynghori cyfrinachol ac am ddim i unrhyw un sydd wedi colli rhywun agos, naill ai'n ddiweddar iawn neu ers blynyddoedd. Heb gymorth, gall profedigaeth arwain at unigedd, iselder a salwch corfforol. Yn ogystal â chymorth un i un ar gyfer oedolion a phlant, mae Cruse Cymru yn cynnig grwpiau cymorth ac yn darparu hyfforddiant mewn ymwybyddiaeth am brofedigaeth i staff sy'n gweithio gyda phobl sydd wedi colli rhywun. Gall gwirfoddolwyr hyfforddedig Cruse Cymru helpu pobl mewn profedigaeth i ymdopi â'r hyn sydd wedi digwydd, ac i symud ymlaen.
Rhwydwaith Prydeinig o wirfoddolwyr sy’n deall ffermio, sydd ar gael i gynorthwyo pobl a’u teuluoedd yn y byd amaethyddol gydag anawsterau o unrhyw fath, ac sy’n barod i ystyried pob agwedd ar sefyllfa. Rydym yn barod i wrando, i gynnig cefnogaeth a chynnig cysylltiadau i ffynonellau cymorth a chyngor perthnasol, boed yn broffesiynol neu’n ymarferol, lle bo’i angen.
Rydym yn gweithio gyda ffermwyr, gweithwyr fferm, a phobl sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth a garddwriaeth, trwy Gymru gyfan, trwy ymweld â’r fferm lle bo hynny’n bosibl, neu drwy gymorth dros y ffôn a chysylltiadau gyda mudiadau eraill neu’r Eglwys.
Mae’r MindinfoLine yn cynnig cymorth cyfrinachol i bobl sy’n ffonio ar ystod o faterion ym maes iechyd meddwl, ynghyd â gwybodaeth am wasanaethau eraill sydd ar gael yn eu hardal leol. Mae Mind Cymru hefyd yn darparu gwasanaeth cyfreithiol arbennig i’r cyhoedd, cyfreithwyr a gweithwyr iechyd meddwl.
Mae ugain o ganghennau lleol Mind Cymru yn cynnig amrediad o wasanaethau, sy’n cynnwys tai â chymorth, llinellau cymorth mewn argyfwng, canolfannau galw heibio, ymgynghori, ymgyfeillio, eiriolaeth, cynlluniau cyflogaeth a hyfforddi, a gwasanaethau eraill. Gellir cysylltu â hwy drwy MindinfoLine. Mae ein Tîm Cymorth Lleol Mind Cymru yn gweithio i gefnogi canghennau Mind lleol.
Yn gweithio yn ardal Maesyfed/Gogledd Brycheiniog. Lleolir y Canolfan Adnoddau yn Llandrindod ac mae grwpiau cymorth allanol yn Llanfair-ym-Muallt, Rhaeadr a Threfyclo, sy’n darparu gwasanaethau dydd i gleientiaid, eu gofalwyr a’u teuluoedd.
Mae RABI yn helpu darparu ar gyfer budd a lles y gymuned ffermio, trwy gymorth ymarferol sy’n cael ei ddarparu gan dîm lles cymwysedig; gofal parhaol o natur ariannol a materol; cymorth ariannol i ddarparu offer ac addasiadau hanfodol i’r cartref; cartrefi preswyl gydag unedau cartrefi cysgodol cysylltiedig; a chymorth a gweithgareddau codi arian gan dros 50 o bwyllgorau gwirfoddol.
Gwasanaeth gwybodaeth a chyngor i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed yw Radical. Mae’n rhan o Wasanaeth Ieuenctid Powys, ac yn gweithio yng nghanol a de Powys.
Yn gweithio gydag oedolion ifanc (18-35) sydd wedi cael diagnosis ffurfiol o broblemau iechyd meddwl difrifol a pharhaol. Rydym yn darparu gwasanaeth allanol un i un yng nghefn gwlad, a gweithgareddau sy’n seiliedig ar ein canolfan. Mae’r gwasanaeth ar gael yn Sir Drefaldwyn.
Yn delio gyda phobl ifanc ac yn darparu gwasanaeth ymyrraeth cynnar ym maes iechyd meddwl.
Yn cynnig cefnogaeth i bobl sy’n gofalu am unigolion sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl trwy ddarparu seibiant i’r rhai maent yn gofalu amdanynt.
Yn cynnig Cynghori ar Berthynas, Therapi Rhyw, i Oedolion dros 16 oed, unigolion a chyplau. Yn gweithio yn ardaloedd: Sir Benfro, Powys, Sir Gâr, Ceredigion, Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr, Castell Nedd a Phort Talbot.
Yn cynnig cymorth 24 awr y dydd i bobl sydd angen siarad gyda rhywun, neu sy’n poeni am ffrind neu aelod o’r teulu. Mae swyddfeydd lleol hefyd ar agor i bobl sydd am siarad wyneb yn wyneb. I’r rhai fyddai’n hoffi ysgrifennu’r hyn sy’n eu poeni, gellir defnyddio’r cyfeiriad e-bost.