Mae’r dudalen cysylltiadau ar y wefan hon yn rhestru mudiadau defnyddiol eraill sy’n cynnig cymorth, gan gynnwys y rheini sy’n gweithio ym maes iechyd meddwl.
Yn delio gydag anghenion tai yng nghefn gwlad i gymunedau gwledig trwy Gymru gyfan. Yn rhedeg Cynllun Tai Gwledig Strategol i'r sawl sy'n gadael busnes gwledig annichonadwy, i alluogi pobl i aros yn eu cymuned, a gadael eu busnes gydag urddas.
Rydym yn ganolfan cynghori annibynnol, ac yn aelod o Advice UK. Rydym yn cynnig cyngor cyfrinachol am ddim i unrhyw un, gan gynnwys cyngor arbenigol, cyngor ariannol arbenigol (gan gynnwys cymorth gydag or-ddyledrwydd, llythrennedd ariannol, llunio cyllideb), a chyngor gan arbenigwyr ar fudd-daliadau lles (gan gynnwys help gyda budd-daliadau salwch/anabledd a diweithdra, Budd-dal Tai a Threth Cyngor, credydau Treth). Mae’r prosiect POWer ar gyfer pobl sy’n dioddef o dlodi tanwydd, yn enwedig pobl gyda theuluoedd ifanc a phobl sy’n agored i niwed. Mae’r prosiect Monergy yn targedu pobl sydd angen cymorth gyda chyllido a defnyddio ynni’n effeithlon.
Mae gwasanaeth Cyngor ar Bopeth yn helpu pobl i ddatrys problemau gyda dyledion, budd-daliadau, tai, y gyfraith, gwahaniaethu, cyflogaeth, mewnfudo, problemau defnyddwyr a phroblemau eraill. Mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim, yn annibynnol ac yn gyfrinachol. Mae cyngor ar gael wyneb yn wyneb neu dros y ffôn. Mae'r rhan fwyaf o ganolfannau yn cynnig ymweliadau â'r cartref, ac mae rhai hefyd yn darparu cyngor dros e-bost.
Mae canolfannau CAB neu leoliadau allanol ar gael ar y rhifau canlynol, ond byddant ond ar agor ar ddyddiau penodol. Am fwy o wybodaeth, ewch at:
Sy'n darparu cefnogaeth a gwasanaeth cynghori cyfrinachol ac am ddim i unrhyw un sydd wedi colli rhywun agos, naill ai'n ddiweddar iawn neu ers blynyddoedd. Heb gymorth, gall profedigaeth arwain at unigedd, iselder a salwch corfforol. Yn ogystal â chymorth un i un ar gyfer oedolion a phlant, mae Cruse Cymru yn cynnig grwpiau cymorth ac yn darparu hyfforddiant mewn ymwybyddiaeth am brofedigaeth i staff sy'n gweithio gyda phobl sydd wedi colli rhywun. Gall gwirfoddolwyr hyfforddedig Cruse Cymru helpu pobl mewn profedigaeth i ymdopi â'r hyn sydd wedi digwydd, ac i symud ymlaen.
Rhwydwaith Prydeinig o wirfoddolwyr sy’n deall ffermio, sydd ar gael i gynorthwyo pobl a’u teuluoedd yn y byd amaethyddol gydag anawsterau o unrhyw fath, ac sy’n barod i ystyried pob agwedd ar sefyllfa. Rydym yn barod i wrando, i gynnig cefnogaeth a chynnig cysylltiadau i ffynonellau cymorth a chyngor perthnasol, boed yn broffesiynol neu’n ymarferol, lle bo’i angen.
Rydym yn gweithio gyda ffermwyr, gweithwyr fferm, a phobl sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth a garddwriaeth, trwy Gymru gyfan, trwy ymweld â’r fferm lle bo hynny’n bosibl, neu drwy gymorth dros y ffôn a chysylltiadau gyda mudiadau eraill neu’r Eglwys.
Mae’r MindinfoLine yn cynnig cymorth cyfrinachol i bobl sy’n ffonio ar ystod o faterion ym maes iechyd meddwl, ynghyd â gwybodaeth am wasanaethau eraill sydd ar gael yn eu hardal leol. Mae Mind Cymru hefyd yn darparu gwasanaeth cyfreithiol arbennig i’r cyhoedd, cyfreithwyr a gweithwyr iechyd meddwl.
Mae ugain o ganghennau lleol Mind Cymru yn cynnig amrediad o wasanaethau, sy’n cynnwys tai â chymorth, llinellau cymorth mewn argyfwng, canolfannau galw heibio, ymgynghori, ymgyfeillio, eiriolaeth, cynlluniau cyflogaeth a hyfforddi, a gwasanaethau eraill. Gellir cysylltu â hwy drwy MindinfoLine. Mae ein Tîm Cymorth Lleol Mind Cymru yn gweithio i gefnogi canghennau Mind lleol.
Mae RABI yn helpu darparu ar gyfer budd a lles y gymuned ffermio, trwy gymorth ymarferol sy’n cael ei ddarparu gan dîm lles cymwysedig; gofal parhaol o natur ariannol a materol; cymorth ariannol i ddarparu offer ac addasiadau hanfodol i’r cartref; cartrefi preswyl gydag unedau cartrefi cysgodol cysylltiedig; a chymorth a gweithgareddau codi arian gan dros 50 o bwyllgorau gwirfoddol.
Yn cynnig Cynghori ar Berthynas, Therapi Rhyw, Cynghori i’r Teulu, a Gwasanaeth Cyfryngu i Deuluoedd, i Oedolion dros 16 oed, unigolion, cyplau a theuluoedd. Yn gweithio yn ardaloedd: Gwynedd, Conwy, Ynys Môn, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam
Mae'r Ganolfan yn cynnig cefnogaeth ac adnoddau i fudiadau iechyd meddwl, oedolion sydd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl, gofalwyr neu rhywun sydd a diddordeb mewn iechyd meddwl. Y nod yw ceisio cael pobl i fod yn hunain gynhaliol ac i gefnogi eu gilydd, adeiladu hyder ac i annog pobl i ddysgu sgiliau newydd ac i ail ddarganfod hen rai. Mae'r gwasanaeth yma ar gael ym Mlaenau Ffestiniog, ble mae croeso cynnes a phaned ar gael yn y ganolfan alw i mewn ynghyd a rhywun i siarad gyda. Mae'r gwasanaeth hefyd ar gael ar ddyddiau dynodedig yn Nolgellau, Tywyn a'r Bala.
Yn cynnig cymorth 24 awr y dydd i bobl sydd angen siarad gyda rhywun, neu sy’n poeni am ffrind neu aelod o’r teulu. Mae swyddfeydd lleol hefyd ar agor i bobl sydd am siarad wyneb yn wyneb. I’r rhai fyddai’n hoffi ysgrifennu’r hyn sy’n eu poeni, gellir defnyddio’r cyfeiriad e-bost.