Skip content

Sir Ddinbych

Cronfa Arc-Addington

Yn delio gydag anghenion tai yng nghefn gwlad i gymunedau gwledig trwy Gymru gyfan. Yn rhedeg Cynllun Tai Gwledig Strategol i'r sawl sy'n gadael busnes gwledig annichonadwy, i alluogi pobl i aros yn eu cymuned, a gadael eu busnes gydag urddas.

Sue Eeley

Cyngor Ar Bopeth

Mae gwasanaeth Cyngor ar Bopeth yn helpu pobl i ddatrys problemau gyda dyledion, budd-daliadau, tai, y gyfraith, gwahaniaethu, cyflogaeth, mewnfudo, problemau defnyddwyr a phroblemau eraill. Mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim, yn annibynnol ac yn gyfrinachol. Mae cyngor ar gael wyneb yn wyneb neu dros y ffôn. Mae'r rhan fwyaf o ganolfannau yn cynnig ymweliadau â'r cartref, ac mae rhai hefyd yn darparu cyngor dros e-bost.

Mae canolfannau CAB neu leoliadau allanol ar gael ar y rhifau canlynol, ond byddant ond ar agor ar ddyddiau penodol. Am fwy o wybodaeth, ewch at:

  • T: 01745 814 336 (Denbigh CAB)
  • T: 01978 860 983 (Llangollen CAB)
  • T: 01745 855 400 (Prestatyn CAB)
  • T: 01745 334 568 (Rhyl CAB)
  • T: 01824 703 483 (Ruthin CAB)
  • G: www.adviceguide.org.uk/wales.htm

Cruse Cymru

Sy'n darparu cefnogaeth a gwasanaeth cynghori cyfrinachol ac am ddim i unrhyw un sydd wedi colli rhywun agos, naill ai'n ddiweddar iawn neu ers blynyddoedd. Heb gymorth, gall profedigaeth arwain at unigedd, iselder a salwch corfforol. Yn ogystal â chymorth un i un ar gyfer oedolion a phlant, mae Cruse Cymru yn cynnig grwpiau cymorth ac yn darparu hyfforddiant mewn ymwybyddiaeth am brofedigaeth i staff sy'n gweithio gyda phobl sydd wedi colli rhywun. Gall gwirfoddolwyr hyfforddedig Cruse Cymru helpu pobl mewn profedigaeth i ymdopi â'r hyn sydd wedi digwydd, ac i symud ymlaen.

  • T: 0870 240 2758
  • T: 0844 477 9400 (y llinell gymorth genedlaethol)

Farm Crisis Network (FCN)

Rhwydwaith Prydeinig o wirfoddolwyr sy’n deall ffermio, sydd ar gael i gynorthwyo pobl a’u teuluoedd yn y byd amaethyddol gydag anawsterau o unrhyw fath, ac sy’n barod i ystyried pob agwedd ar sefyllfa. Rydym yn barod i wrando, i gynnig cefnogaeth a chynnig cysylltiadau i ffynonellau cymorth a chyngor perthnasol, boed yn broffesiynol neu’n ymarferol, lle bo’i angen.

Rydym yn gweithio gyda ffermwyr, gweithwyr fferm, a phobl sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth a garddwriaeth, trwy Gymru gyfan, trwy ymweld â’r fferm lle bo hynny’n bosibl, neu drwy gymorth dros y ffôn a chysylltiadau gyda mudiadau eraill neu’r Eglwys.

  • T: 0845 367 9990 (Llinell Gymorth Genedlaethol – 7yb – 11yh bob dydd, peiriant ateb ar adegau eraill)

Mind Cymru

Mae'r MindinfoLine yn cynnig cymorth cyfrinachol i bobl sy’n ffonio ar ystod o faterion ym maes iechyd meddwl, ynghyd â gwybodaeth am wasanaethau eraill sydd ar gael yn eu hardal leol. Mae Mind Cymru hefyd yn darparu gwasanaeth cyfreithiol arbennig i’r cyhoedd, cyfreithwyr a gweithwyr iechyd meddwl.

Mae ugain o ganghennau lleol Mind Cymru yn cynnig amrediad o wasanaethau, sy’n cynnwys tai â chymorth, llinellau cymorth mewn argyfwng, canolfannau galw heibio, ymgynghori, ymgyfeillio, eiriolaeth, cynlluniau cyflogaeth a hyfforddi, a gwasanaethau eraill. Gellir cysylltu â hwy drwy MindinfoLine. Mae ein Tîm Cymorth Lleol Mind Cymru yn gweithio i gefnogi canghennau Mind lleol.

  • T: 01745 336 787 (Vale of Clwyd Mind, Rhyl)
  • T: 0845 766 016 (MindinfoLine - o unrhyw le ym Mhrydain am bris galwad leol)
  • G: www.mind.org.uk

Swyddog Gwybodaeth Cymru a Lloegr Gwledig: Rachael Twomey

Mind Dyffryn Clwyd - Gwasanaeth Allanol Gwledig

Mae'r Prosiect Gwasanaeth Allanol Gwledig (ROS) yn darparu gwybodaeth, cymorth a hyfforddiant i bobl sy’n dioddef o effaith materion ym maes iechyd meddwl yng nghefn gwlad Siroedd Dinbych a Chonwy (ochr ddeheuol yr A55). Mae eu gwaith yn cynnwys herio stigma a gwahaniaethu mewn ardaloedd gwledig, hwyluso grwpiau cymorth a grwpiau arbenigol, darparu hyfforddiant arbenigol achrededig ASIST(Applied Suicide Intervention Skills Training) yng Ngogledd Cymru, a rhedeg cynllun hyfforddi yn Ystafelloedd Te Plas Newydd. Mae’r uned symudol allanol (Doris) yn ymweld â Marchnadoedd Ffermwyr yn rheolaidd, â Sioeau Sirol a digwyddiadau eraill, a chymunedau gwledig.

RABI (The Royal Agricultural Benevolent Institution)

Mae RABI yn helpu darparu ar gyfer budd a lles y gymuned ffermio, trwy gymorth ymarferol sy’n cael ei ddarparu gan dîm lles cymwysedig; gofal parhaol o natur ariannol a materol; cymorth ariannol i ddarparu offer ac addasiadau hanfodol i’r cartref; cartrefi preswyl gydag unedau cartrefi cysgodol cysylltiedig; a chymorth a gweithgareddau codi arian gan dros 50 o bwyllgorau gwirfoddol.

Llinell gymorth brys

  • T: 01865 727 888

Swyddog Rhanbarthol Cymru: Erys Hughes

Relate Gogledd Cymru

Yn cynnig Cynghori ar Berthynas, Therapi Rhyw, Cynghori i’r Teulu, a Gwasanaeth Cyfryngu i Deuluoedd, i Oedolion dros 16 oed, unigolion, cyplau a theuluoedd. Yn gweithio yn ardaloedd: Gwynedd, Conwy, Ynys Môn, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam

Rheolwr Gogledd Cymru: Mrs. Alex Jaundrill

Y Samariaid

Yn cynnig cymorth 24 awr y dydd i bobl sydd angen siarad gyda rhywun, neu sy’n poeni am ffrind neu aelod o’r teulu. Mae swyddfeydd lleol hefyd ar agor i bobl sydd am siarad wyneb yn wyneb. I’r rhai fyddai’n hoffi ysgrifennu’r hyn sy’n eu poeni, gellir defnyddio’r cyfeiriad e-bost.

Cangen Bangor

  • A: 5A Llys Onnen, Parc Menai Bangor, Gwynedd, LL57 4DF UK

Cangen y Rhyl

  • A: 23 Bedford Street Rhyl, Denbighshire, LL18 1SY UK

« Back to the map