Dysgu am arwyddion a sym- ptomau straen a sut i wybod os mae'n effeithio arnoch chi.
Syniadau a thechnegau i helpu'ch hunan gyda straen
Dod o hyd i fudiadau yn eich sir chi yn hawdd gyda'n map a chyfeirlyfr.
Nod gwefan Cymorth i Gefn Gwlad Cymru yw darparu cyngor, gwybodaeth a chymorth i bobl sy'n byw yng nghefn gwlad Cymru. Mae'n canolbwyntio'n bennaf ar faterion ym maes straen yng nghefn gwlad, fel rhan o brosiect a ariannwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru oedd yn delio gyda Straen a Lles yng Nghefn Gwlad. Mae'n addas i ddarparwyr ym maes gofal iechyd ac ar gyfer y sawl sydd angen cymorth a chefnogaeth.
Mae'n cynnwys gwybodaeth ynghylch arwyddion a symptomau straen, yr hyn y gall pobl ei wneud i helpu eu hunain, a chyfeirlyfr o fudiadau sy'n gallu cynnig cymorth. Gallwch ddefnyddio'r map i ddod o hyd i'r mudiadau sy'n gweithio yn eich ardal chi.
Dyluniwyd y wefan fel ei bod yn hawdd ei defnyddio, ac mae'n rhestru mudiadau allweddol yn unig sy'n gweithio ym maes straen yng nghefn gwlad. Os oes gennych ddiddordeb ym maes ehangach iechyd a lles yng nghefn gwlad, gweler y dolenni.