Skip content

Angen help yn eich ardal chi?

Y cam cyntaf mwyaf defnyddiol yw siarad gyda rhywun arall. Gall ffrindiau, aelodau'r teulu neu gydweithwyr gynnig clust i wrando, ac mae'n eithaf posibl eu bod nhw hefyd wedi dioddef o straen tebyg. Fodd bynnag, hwyrach nad ydych yn teimlo y gallwch siarad gyda rhywun sy'n agos atoch, a byddech yn hoffi siarad gyda rhywun tu allan i'ch cylch chi'ch hunan. Yn y lle cyntaf, hwyrach yr hoffech gysylltu â'ch doctor. Does dim rhaid bod â salwch corfforol i weld eich doctor. Byddan nhw wedi cael llawer o brofiad o ddelio gyda phobl sy'n dioddef o straen, a byddant yn gallu trafod pa fath o gymorth byddech yn hoffi ei dderbyn. Bydd eich sgwrs yn gwbl gyfrinachol. Bydd y doctor yn gallu cyfeirio chi at wasanaethau cynghori pe dymunir, neu gall roi gwybodaeth i chi am gymorth ymarferol addas sydd ar gael.

Hefyd, efallai y bydd yn ddefnyddiol siarad gyda gweinidog, fydd hwyrach yn gallu helpu'n uniongyrchol neu byddai'n gallu cyfeirio chi at fudiadau cymorth.

Gallwch hefyd gysylltu â'r mudiadau cymorth eich hunan, ac mae'r adran hon o'r wefan yn rhestru mudiadau sy'n cynnig cefnogaeth ym maes straen yng nghefn gwlad yn ôl y siroedd. Rydym wedi cynnwys y siroedd yng Nghymru sydd â phoblogaethau gwledig sylweddol. Mae nifer o'r mudiadau a restrir yn fudiadau cenedlaethol, gyda rhifau cyswllt cenedlaethol; felly hyd yn oed os nad ydych yn byw mewn un o'r siroedd a restrir, gallwch gysylltu âr mudiadau hyn i gael manylion eich cangen agosaf. Ac wrth gwrs, gall unrhyw un gysylltu â mudiadau mewn sir arall pe dymunir.

Dewiswch eich ardal

Map of Wales with clickable counties Sir Fynwy Sir Gâr Sir Benfro Ceredigion Powys Sir Ddinbych Conwy Gwynedd Ynys Môn

Ac wrth gwrs, gall unrhyw un gysylltu â mudiadau mewn sir arall pe dymunir.