Skip content

Fforwm Straen Cefn Gwlad Cymru

Cynhaliwyd y Gynhadledd gyntaf yng Nghymru ar "Fynd i'r Afael â Straen yng nghefn Gwlad" yng Ngregynog ym 1997, dan gadeiryddiaeth y Fonesig Deidre Hine, cyn Brif Swyddog Meddygol Cymru. Roedd yn cynrychioli dull o weithio oedd yn wirioneddol amlddisgyblaethol, gan gynnwys y Llywodraeth, cynrychiolwyr y sector gwirfoddol a'r gymuned fusnes, ynghyd ag arbenigwyr meddygol ac eraill. Dilynwyd hyn gan astudiaeth ddichonoldeb ar y ffordd ymlaen, a gynhaliwyd gan Asiantaeth Ffermio a Chadwraeth Cefn Gwlad (FRCA) ar ran Adrannau Iechyd ac Amaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, a chafodd yr argymhellion eu cynnwys mewn adroddiad gan Fiona McFarlane (2000) 'Rural Stress Support In Wales'.

Sefydlwyd Fforwm Straen yng Nghefn Gwlad Cymru (dan ei enw gwreiddiol: Fforwm Cymru i Fynd i'r Afael â Straen yng Nghefn Gwlad) yn 2002 gyda chylch gorchwyl wedi'i gytuno, fel cynllun partneriaeth i wella iechyd meddwl a lles pobl sy'n byw ac yn gweithio mewn cymunedau gwledig yng Nghymru. Dan y bartneriaeth aml-asiantaeth, daeth mudiadau statudol, gwirfoddol a chymunedol gyda diddordeb mewn straen yng nghefn gwlad, iechyd meddwl, a lles cymunedau gwledig at ei gilydd, gyda diddordeb arbennig mewn grwpiau agored i niwed, oedd yn cynnwys ffermwyr a'u teuluoedd, yr henoed, yr ifainc a lleiafrifoedd.

Rhwydwaith Gwybodaeth Gofid Cefn Gwlad oedd yn darparu gwasanaeth ysgrifenyddol, a'r Sefydliad Iechyd Gwledig oedd yn cadeirio Fforwm Straen Cefn Gwlad Cymru, gydag arian o Gynllun Adfer Cefn Gwlad Cymru yn sgil Clwy'r Traed a'r Genau yn 2001. Roedd y Fforwm yn fan cyswllt ac yn fan gwybodaeth canolog i fudiadau oedd yn gweithio er budd iechyd meddwl a lles pobl yng nghefn gwlad. Roedd y Fforwm yn gwireddu ei nodau trwy raglen dreigl o weithredoedd, digwyddiadau, ymchwil a phrosiectau arddangos a dosbarthu gwybodaeth.

Yn ei Gynhadledd ym Medi 2003, cyflwynodd Fforwm Straen Cefn Gwlad Cymru 'Gweledigaeth gyda Phum Pennawd' yn ddull datblygu i'r dyfodol:

  1. Cymorth lleol integredig
  2. Eiriolaeth yn y gymuned
  3. Un llinell gymorth genedlaethol
  4. Cydlynu effeithiol ar bob lefel
  5. Seilwaith cynaliadwy

Mae'r adroddiad ar gael o'r Sefydliad Iechyd Gwledig ar: www.irh.ac.uk

Oherwydd diffyg cefnogaeth ariannol ar ôl Mawrth 2004, gwelwyd effaith ddifrifol ar weithgaredd y Fforwm, ac yn ystod Haf 2006, er mwyn datblygu'r gweithgaredd a welwyd i gychwyn, a'r gweithio mewn partneriaeth a ddeilliodd ohono, datblygodd y Fforwm yn Grŵp Llywio ar gyfer Prosiect Straen a Lles yng Nghefn Gwlad.